Picture of a judge's wigThis Is Not A BLOG!Picture of a judge's wig



Dyddiad: 16/07/14

Glyndŵr Ein Llên

England flag indicating that there's an English translation of this piece

Ffoto o Gerallt Lloyd Owen

Gerallt Lloyd Owen
Bardd, darlledwr, cyhoeddwr, gwladgarwr
g. 6 Tachwedd 1944, f. 15 Gorffennaf 2014

Gerallt Lloyd Owen
Poet, broadcaster, publisher, patriot
b. 6 November 1944, d. 15 July 2014

**********

"Afraid dweud mai mawr yw'r golled,
Diwerth sôn mor egr yw'r loes.
Dim ond sawru chwerwder galar
Dros gawr o fardd ar ben ei oes.

"Tydi a roddodd i ni, Gerallt,
Eiriau hallt am lyfrdra'r dyn
A honnai iddo fod yn bleidiol
I bob un wlad - ond ei wlad ei hun.

"Tydi a welodd cwymp cymdeithas
Glòs cefn gwlad - pob tŷ a chae -
A throi dy ddirmyg at yr euog
Gan weld mai arnom ni fu'r bai.

"Ac ni fu i ti gynnig tafod
Llariaidd llon na llwfwr wên
I fonedd hy na gwreng gwangalon;
Tydi oedd ail Glyndŵr ein llên.

"Oherwydd, ti oedd cymwynaswr
Mawr ein beirdd, yr hen a'r iau,
A'u heriodd hwy i wneud a allent
I gynnal cerdd, a'i hadfywhau.

"A thrwy hyn oll, cyflawnaist wyrth
O droi'r hen farwor barddol, oer
Yn goelcerth ar yr un hen aelwyd
I gynnal gwlad hyd nos di-loer.

"Ffarwèl, Penfeuryn! Wylwn wers
Wrth weld 'rhen Angau'n chwarae'i dric.
A boed i'th ran hyd hedd yr oesoedd
Dragwyddol Dalwrn - efo Dic."

(N.S., ag ymddiheuriadau - i bawb)

**********

Sorry, dear monoglots, but there's no translation here after all.

Writing poetry is bad enough; translating it is a fool's errand beyond all redemption.

Please read my piece for Transdiffusion a little while back and this blog post from late 2011 for a bit of a clue as to why Gerallt Lloyd Owen was a key figure in our nation's cultural history.